Croeso i CEDC
Mae CEDC – Consortiwm Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth Cymru – yn gonsortiwm o ymgynghorwyr llawrydd sy’n gweithredu yn y
sectorau tai ac amrywiaeth. Sefydlwyd CEDC ym mis Mai 2003 ac mae pob un o’r
ymgynghorwyr sy’n rhan o CEDC yn llwyr ymrwymedig i hyrwyddo’r agenda
cydraddoldeb. Sefydlwyd y consortiwm i gynyddu cynhwysedd yr ymgynghorwyr unigol
sy’n rhan ohono a manteisio ar sylfaen sgiliau ehangach.
Ystyria CEDC mai ei rôl sylfaenol yw cefnogi
sefydliadau sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i ddatblygu a hyrwyddo’r
agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn ogystal mae CEDC hefyd yn darparu
gwasanaethau yn y maes ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â thai.
Mae CEDC yn gweithredu yn bennaf yng Nghymru,
gan weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau
tai, asiantaethau gwirfoddol, cynghorau cydraddoldeb hiliol, awdurdodau iechyd
ac awdurdodau addysg uwch/pellach i:
·
gynhyrchu Cynlluniau Cydraddoldeb
Sengl ac Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
·
ymgymryd ag adolygiadau o
ymagweddau sefydliadau tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth
·
darparu hyfforddiant ar
gydraddoldeb
·
datblygu strategaethau a
chynlluniau gweithredu cydraddoldeb
·
datblygu polisi ar gydraddoldeb,
amrywiaeth a materion tai
·
ymchwilio anghenion tai pobl ddu a
lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr mudol, Sipsiwn a Theithwyr
·
adolygu ymagweddau sefydliadau i
ymddygiad gwrthgymdeithasol
·
datblygu strategaethau ymddygiad
gwrthgymdeithasol
Os hoffech wybod mwy am y gwasanaeth y
gallwn ei gynnig i chi cliciwch ar y ddolen neu ffoniwch Clifton ar 07879 643160
|